Polisi Marcio a Gosod Safonau SQE

Cyhoeddwyd ddiwethaf: Ebrill 2024

Penodwyd Kaplan SQE Limited (Kaplan SQE) gan yr Solicitors Regulation Authority Limited (“SRA”) fel unig ddarparwr yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (“yr Asesiad”) a’r Sefydliad Asesu Pwynt Terfyn (“EPAO”) ar gyfer Prentisiaid Cyfreithwyr.

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r polisi ar farcio asesiadau’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr a phennu’r marc pasio

1

SQE1

1.1

Mae SQE1 yn cynnwys dau arholiad sy’n profi Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol: FLK1 ac FLK2. Mae’n rhaid i ymgeiswyr basio FLK1 ac FLK2 i basio SQE1. Er mwyn pasio FLK1, rhaid i ymgeiswyr gyrraedd y marc pasio cyffredinol ar gyfer FLK1. Yna, er mwyn pasio FLK2, rhaid i ymgeiswyr gyrraedd y marc pasio cyffredinol ar gyfer FLK2.

1.2

Rhoddir un marc am bob ateb cywir ond ni chaiff marciau eu tynnu am atebion anghywir. Ni fydd mwy nag un ateb ar gyfer un cwestiwn yn cael eu cyfrif. Bydd y marciau ar gyfer FLK1 yn cael eu cyfuno er mwyn rhoi marc canran cyffredinol ar gyfer FLK1. Yn yr un modd, bydd y marciau ar gyfer FLK2 yn cael eu cyfuno er mwyn rhoi marc canran cyffredinol ar gyfer FLK2. Er mwyn penderfynu a yw ymgeisydd wedi cyrraedd y marc pasio cyffredinol, mae cyfanswm marc canran yr ymgeisydd yn cael ei dalgrynnu i lawr i'r cyfanrif agosaf. 1.

1.3

Pennir y marc pasio gan y Bwrdd Asesu (y Bwrdd) gan gyfeirio at y dull Angoff Addasedig, ynghyd â chywerthedd ystadegol a dulliau cydnabyddedig eraill2 fel y bo’n briodol. Gwneir cywiriad ar gyfer gwall mesur er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n pasio yn haeddu pasio, ar y sail ei fod yn rhoi sicrwydd digonol bod y rhai sy’n uwch na’r marc pasio yn gymwys i ymarfer. Wedi hyn, bydd y marc pasio yn cael ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf3.

1.4

Mae’r dull Angoff Addasedig yn golygu cynnull panel o gyfreithwyr cymwys sy’n gyfarwydd â chymhwysedd ‘diwrnod cyntaf’ i ystyried, ar gyfer pob cwestiwn yn yr asesiad, sawl un allan o ddeg cyfreithiwr newydd-gymhwyso Diwrnod Cyntaf a fyddai’n ateb y cwestiwn yn gywir. Wrth ddod i’r dyfarniad hwn, bydd y grŵp yn ystyried lefel cymhwysedd y cyfreithiwr Diwrnod Cyntaf fel y’i diffinnir yn y Safon Drothwy, fel y’i nodir ym Manyleb Asesu SQE1. Cyn i’r panel ystyried pob cwestiwn, bydd hyfforddiant ar gyfer aelodau’r panel a thrafodaeth am ddefnyddio’r Safon Drothwy. Mae’r penderfyniadau a wneir gan aelodau’r panel yn cael eu cyfartaleddu ar gyfer pob eitem a’u crynhoi ar gyfer yr asesiad er mwyn rhoi syniad cychwynnol o’r sgôr pasio4.

1.5

Mae cywerthedd ystadegol yn golygu cymharu rhwng pa mor anodd mae gwahanol asesiadau drwy edrych ar sut roedd ymgeiswyr yn perfformio ar eitemau cyffredin a sut roeddent yn perfformio ar wahanol eitemau. Fel arfer, mae canlyniadau Panel Angoff yn cael eu hategu gan ystyriaeth y Bwrdd o’r cyfartalu ystadegol.

1.6

Ar ôl penderfynu ar sgôr pasio, bydd manylder yr asesiad, fel y’i mesurir gan y Gwall Mesur Safonol (SEm), yn cael ei ystyried. Bydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniad ynghylch lefel unrhyw gywiriad y dylid ei wneud ar gyfer gwall mesur er mwyn cyrraedd marc pasio terfynol ar gyfer yr asesiad. Gwneir y cywiriad hwn er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n pasio yn haeddu pasio, ar y sail ei fod yn rhoi sicrwydd digonol bod y rhai sy’n uwch na’r marc pasio yn gymwys i ymarfer

2

SQE2

2.1

Un arholiad yw SQE2 sydd wedi’i rannu’n 16 safle5.

2.2

Bydd asesydd sydd wedi cael ei hyfforddi i chwarae rôl y cleient yn asesu perfformiad ymgeiswyr yn y cyfweliad cleient. Asesir y cyfweliad cleient ar sail sgiliau yn unig, nid ar sail cymhwyso’r gyfraith. Bydd y nodyn cyfarfod a phob ymarfer arall yn cael eu marcio gan gyfreithwyr a byddant yn cael eu marcio ar sail sgiliau a chymhwyso’r gyfraith. Bydd pob marciwr wedi cael ei hyfforddi a bydd eu marciau yn cael eu safoni.

2.3

Mae marcio’n seiliedig ar farn broffesiynol gyffredinol yn hytrach na ‘thicio blychau’ neu wirio rhestr. Y man cychwyn ar gyfer y penderfyniadau proffesiynol cyffredinol hyn yw safon cymhwysedd yr asesiad a nodir ym Manyleb Asesu SQE2, sef cyfreithiwr Newydd-gymhwyso Diwrnod Cynta (y Safon Trothwy). Mae marcwyr wedi eu hyfforddi i fod yn hyblyg o ran y dull y mae’r ymgeisydd yn ei ddefnyddio.

2.4

Mae gan bob math o ymarfer (cyfweliad cleient a nodyn cyfarfod/dadansoddiad cyfreithiol, eiriolaeth, dadansoddiad o’r achos a’r mater, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu cyfreithiol, drafftio cyfreithiol) feini prawf asesu sydd wedi’u nodi ym Manyleb Asesu SQE2.

2.5

Mae marcio’n seiliedig ar berfformiad ar bob un o’r meini prawf asesu a fernir ar raddfa o A i F fel a ganlyn:

  • Perfformiad eithriadol: llawer uwch na gofynion cymhwysedd yr asesiad
  • Yn amlwg yn foddhaol: yn bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad yn glir
  • Pasio o fymryn: at ei gilydd, yn bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad a dim mwy
  • Methu o fymryn: at ei gilydd, yn methu o ychydig â bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad
  • Yn amlwg yn anfoddhaol: mae’n glir nad yw’n bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad
  • Perfformiad gwael: llawer is na gofynion cymhwysedd yr asesiad
2.6

Mae marciau ar gyfer pob ymgeisydd yn cael eu rhoi ar raddfa rifol fel bod A = 5 a F = 0. Yna, mae’r sgoriau rhifol hyn ar gyfer pob safle yn cael eu crynhoi er mwyn cyrraedd cyfanswm sgôr yr ymgeisydd.

2.7

Mae gan bob safle sgôr ar ffurf canran sydd wedi’i chyfrifo o’r marciau a roddir ar gyfer cymhwyso’r gyfraith, ac ar gyfer sgiliau, sydd wedi’u cyfuno â phwysoliad cyfartal i roi cyfanswm sgôr ar gyfer pob safle. Y sgôr terfynol ar ffurf canran ar gyfer ymgeiswyr yw cyfartaledd y cyfanswm o 16 safle.

2.8

I gyfrifo’r sgôr ar gyfer y Cyfweliad Cleient a’r Nodyn Cyfweliad/Dadansoddiad Cyfreithiol, cyfrifir y marciau sgiliau drwy ystyried marc sgiliau’r cyfweliad (sy’n cael ei farcio ar sgiliau yn unig) a’r marc sgiliau ar gyfer y nodyn cyfarfod, wedi’u pwysoli’n gyfartal. Daw’r marc am gymhwyso’r gyfraith o’r nodyn cyfweliad/dadansoddiad cyfreithiol yn unig. I gyfrifo cyfanswm sgôr y safle, caiff sgiliau a chymhwyso’r gyfraith eu pwysoli’n gyfartal.

2.9

Er mwyn pasio SQE2, rhaid i ymgeiswyr gael y marc pasio cyffredinol ar gyfer SQE2. Wrth gyfrifo cyfanswm sgôr ymgeisydd, bydd cyfanswm marc canran yr ymgeisydd yn cael ei dalgrynnu i'r cyfanrif agosaf6.

2.10

Bydd y marc pasio ar gyfer SQE2 yn cael ei bennu gan y Bwrdd gan gyfeirio at y dull atchweliad ffiniol a ategir gan ddulliau cydnabyddedig eraill fel y bo’n briodol, yn ogystal â chywiro ar gyfer gwall mesur. Wedi hyn, bydd y marc pasio yn cael ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf8.

2.11

Yn y dull atchweliad ffiniol, caiff pob ymarfer ei farcio fel yr amlinellir uchod. Mae pob arholwr hefyd yn darparu gradd pasio “gosod safon” gyffredinol, pasio ffiniol, methiant ffiniol neu fethu. Nid yw’r radd hon sy’n gosod y safon yn cyfrif fel rhan o farc yr ymgeisydd, ond fe’i defnyddir i osod y sgôr pasio ar gyfer yr ymarfer. Mae sgoriau ymgeiswyr yn cael eu rhoi yn ôl yn erbyn graddau gosod safonol er mwyn cael sgôr pasio ar gyfer pob ymarfer, a’u crynhoi ar gyfer yr asesiad.

Marking Policy Image

2.12

Ar ôl penderfynu ar sgôr pasio, bydd manylder yr asesiad, fel y’i mesurir gan y Gwall Mesur Safonol (SEm), yn cael ei ystyried. Penderfynir ynghylch lefel unrhyw gywiriad y dylid ei wneud i’r sgôr pasio i wneud yn iawn am wall mesur cyn cyrraedd marc pasio terfynol ar gyfer yr asesiad. Gwneir y cywiriad hwn er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n pasio yn haeddu pasio, ar y sail ei fod yn rhoi sicrwydd digonol bod y rhai sy’n uwch na’r marc pasio yn gymwys i ymarfer.

1Yn XX.499 ac isod, mae’r marc yn mynd i lawr i’r cyfanrif agosaf; yn XX .500 ac uwch mae’n mynd i fyny i’r cyfanrif agosaf
2Gweler er enghraifft Hofstee, W.K.B. (1983). The case for compromise in educational selection and grading. Yn S. B. Anderson a J. S. Helmick (Gol.), On educational testing (tt. 109–127). San Francisco, CA: Jossey-Bass
3Yn XX.499 ac isod, mae’r marc yn mynd i lawr i’r cyfanrif agosaf; yn XX .500 ac uwch mae’n mynd i fyny i’r cyfanrif agosaf
4Y sgôr pasio yw’r sgôr isaf posibl i basio’r asesiad. Mae’r sgôr pasio fel arfer yn cael ei chyfrifo heb gyfeirio at wall mesur, sy’n cael ei ystyried ar ôl pennu sgôr pasio (gweler paragraff 1.3) i ganfod y marc pasio
5Cyfeirir at yr 16 ymarfer gwahanol y mae ymgeiswyr yn eu gwneud yn SQE2 fel ‘safleoedd’
6Yn XX.499 ac isod, mae’r marc yn mynd i lawr i’r cyfanrif agosaf; yn XX .500 ac uwch mae’n mynd i fyny i’r cyfanrif agosaf
7Gweler er enghraifft Hofstee, W.K.B. (1983). The case for compromise in educational selection and grading. Yn S. B. Anderson a J. S. Helmick (gol.), On educational tests (pp. 109–127). San Francisco, CA: Jossey-Bass
81 Yn XX.499 ac isod, mae’r marc yn mynd i lawr i’r cyfanrif agosaf; yn XX .500 ac uwch mae’n mynd i fyny i’r cyfanrif agosaf
2 Gweler er enghraifft Hofstee, W.K.B. (1983). The case for compromise in educational selection and grading. Yn S. B. Anderson a J. S. Helmick (Gol.), On educational testing (tt. 109–127). San Francisco, CA: Jossey-Bas
3 Yn XX.499 ac isod, mae’r marc yn mynd i lawr i’r cyfanrif agosaf; yn XX .500 ac uwch mae’n mynd i fyny i’r cyfanrif agosaf
4 Y sgôr pasio yw’r sgôr isaf posibl i basio’r asesiad. Mae’r sgôr pasio fel arfer yn cael ei chyfrifo heb gyfeirio at wall mesur, sy’n cael ei ystyried ar ôl pennu sgôr pasio (gweler paragraff 1.3) i ganfod y marc pasio
5 Cyfeirir at yr 16 ymarfer gwahanol y mae ymgeiswyr yn eu gwneud yn SQE2 fel safleoedd
6 Yn XX.499 ac isod, mae’r marc yn mynd i lawr i’r cyfanrif agosaf; yn XX .500 ac uwch mae’n mynd i fyny i’r cyfanrif agosaf
7 Gweler er enghraifft Hofstee, W.K.B. (1983). The case for compromise in educational selection and grading. Yn S. B. Anderson a J. S. Helmick (Gol.), On educational testing (tt. 109–127). San Francisco, CA: Jossey-Bass
8 Yn XX.499 ac isod, mae’r marc yn mynd i lawr i’r cyfanrif agosaf; yn XX .500 ac uwch mae’n mynd i fyny i’r cyfanrif agosaf

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?